Psalms 55

Gweddi un wedi ei fradychu gan ei ffrind

I'r arweinydd cerdd:  Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.

1Gwrando ar fy ngweddi, O Dduw;
paid diystyru fi'n galw am dy help!
2Gwranda arna i, ac ateb fi.
Mae'r sefyllfa yma yn fy llethu;
dw i wedi drysu'n lân!
3Mae'r gelyn yn gweiddi arna i,
ac yn bygwth pob math o ddrwg.
Dŷn nhw ond eisiau creu helynt
ac ymosod arna i yn wyllt.
4Mae fy nghalon yn rasio tu mewn i mi.
Mae ofn marw wedi mynd yn drech na mi.
5Mae ofn a dychryn wedi fy llethu i –
dw i'n methu stopio crynu!
6“O na fyddai gen i adenydd fel colomen,
i mi gael hedfan i ffwrdd a gorffwys!
7Byddwn i'n hedfan yn bell i ffwrdd,
ac yn aros yn yr anialwch.

 Saib
8Byddwn i'n brysio i ffwrdd i guddio,
ymhell o'r storm a'r cythrwfl i gyd.”
9Dinistria nhw Arglwydd;
a drysu eu cynlluniau nhw!
Dw i'n gweld dim byd ond trais a chweryla yn y ddinas.
10Mae milwyr yn cerdded ei waliau i'w hamddiffyn ddydd a nos,
ond y tu mewn iddi mae'r drwg go iawn.
11Pobl yn bygwth ei gilydd ym mhobman –
dydy gormes a thwyll byth yn gadael ei strydoedd!
12Nid y gelyn sy'n fy ngwawdio i
– gallwn oddef hynny;
Nid y gelyn sy'n fy sarhau i
– gallwn guddio oddi wrth hwnnw;
13Na! Ti, sy'n ddyn fel fi,
yn gyfaill agos; fy ffrind i!
14Roedd dy gwmni di mor felys
wrth i ni gerdded gyda'n gilydd yn nhŷ Dduw.
15Gad i'r gelynion yn sydyn gael eu taro'n farw!
Gad i'r bedd eu llyncu nhw'n fyw!
Does dim ond drygioni ble bynnag maen nhw!
16Ond dw i'n mynd i alw ar Dduw,
a bydd yr Arglwydd yn fy achub i.
17Dw i'n dal ati i gwyno a phledio,
fore, nos, a chanol dydd.
Dw i'n gwybod y bydd e'n gwrando!
18Bydd e'n dod â fi allan yn saff
o ganol yr ymladd,
er bod cymaint yn fy erbyn i.
19Bydd Duw, sy'n teyrnasu o'r dechrau cyntaf,
yn gwrando arna i ac yn eu trechu nhw!

 Saib
Maen nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd,
a dangos parch tuag at Dduw.
20Ond am fy ffrind wnaeth droi yn fy erbyn i,
torri ei air wnaeth e.
21Roedd yn seboni gyda'i eiriau,
ond ymosod oedd ei fwriad.
Roedd ei eiriau yn dyner fel olew,
ond cleddyfau noeth oedden nhw go iawn.
22Rho dy feichiau trwm i'r Arglwydd;
bydd e'n edrych ar dy ôl di.
Wnaiff e ddim gadael i'r cyfiawn syrthio.
23O Dduw, byddi di'n taflu'r rhai drwg i bwll dinistr –
Bydd y rhai sy'n lladd ac yn twyllo yn marw'n ifanc.
Ond dw i'n dy drystio di.
Copyright information for CYM